SL(6)328 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Bwriad y Rheoliadau hyn yw diwygio’r system apelau Ardrethu Annomestig (NDR) yng Nghymru. Gweinyddir y system gan ddau sefydliad annibynnol, gyda’r naill a’r llall yn gyfrifol am wahanol gamau o'r broses. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am brisio a rhestru hereditamentau ar gyfer ardrethi annomestig, gan gynnwys ystyried cynigion gan drethdalwyr sydd o’r farn y dylid newid eu prisiad. Mae Tribiwnlys Prisio Cymru (TPC) yn gyfrifol am apelau, pan na cheir cytundeb rhwng trethdalwr ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio o ran newid arfaethedig i brisiad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi proses newydd ar waith i drethdalwyr ymgysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, wedi'i hategu gan ei llwyfan digidol, ac ychydig o newidiadau ychwanegol i'r trefniadau ar gyfer apelau i Dribiwnlys Prisio Cymru. Nod y newidiadau yw gwella effeithlonrwydd y system ar gyfer trethdalwyr a chyrff cyhoeddus drwy leihau apelau hapfasnachol ac aflwyddiannus. Maent hefyd yn gweithredu fel galluogwr ar gyfer y nod polisi ehangach o gyflawni ailbrisiadau ardrethi annomestig yn amlach, gan sicrhau bod biliau trethdalwyr yn adlewyrchu'r amodau economaidd cyfredol yn fwy cywir ac, yn ei dro, yn lleihau'r tebygolrwydd y caiff apêl ei chyflwyno.

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Nodwn, o dan reoliad 17(1), fod yn rhaid i unrhyw swm sy’n dod i law’r Swyddog Prisio ar ffurf 'cosb Rhan 2' gael ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae 'cosb Rhan 2' yn gosb ariannol (£200) a osodir ar berson o dan reoliad 16 am roi gwybodaeth ffug i Swyddog Prisio.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Chwefror 2023